Enw:
Ysgol Uwchradd Llanidloes
Cipiodd yr ysgol y wobr Ysgol y Mis ar gyfer mis Mawrth – gwobr a gyflwynir gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i weithredu’n lleol gan Gyngor Sir Powys.
Diben 5x60 yw cael disgyblion ysgolion uwchradd nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gorfforol i fod yn fwy egnïol yn amlach ac mae’r cynllun yn sicr yn sgorio marciau uchel. Yn wir, mae 98% o’r holl ysgolion prif ffrwd yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn awr.
Mae mwy na hanner y disgyblion yn Ysgol Uwchradd Llanidloes wedi rhoi cynnig ar weithgareddau 5x60 ers i’r cynllun gyrraedd yr ysgol fis Medi 2007, a gyda gweithgareddau newydd ar yr amserlen ar gyfer eleni, mae disgwyl i lawer mwy gofrestru.
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau’n cael eu cynnig yn yr ysgol, yn cynnwys tenis bwrdd, troelli, hwylio, caiacio, dawns a golff i enwi dim ond rhai. Mae pêl osgoi yn ffefryn mawr ymhlith yr ieuenctid a sboncen, pêl fasged a badminton yn agos iawn wrth ei gynffon.
Meddai Swyddog 5x60 yr ysgol, Kate Preston, a dderbyniodd wobr Swyddog y Mis fis Medi am ei chyfraniad at gael pob plentyn i fwynhau chwaraeon am oes, am lwyddiant y cynllun yn Llanidloes hyd yma,
"Ers cyflwyno’r prosiect, rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol, drwy gynnig iddyn nhw weithgareddau amgen er mwyn eu cadw’n ddiddig yn ystod y cyfnodau o egwyl ac amseroedd cinio."
