Enw:
George Owen
Wedi’i enwi’n Swyddog y Mis 5x60 ar gyfer mis Chwefror, dim ond un yw George o blith y llu o arweinwyr sydd wedi’u recriwtio gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn cael ei gefnogi’n lleol gan Gyngor Sir Ddinbych, diben y cynllun yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.
Mae’r gŵr ifanc 24 oed o Ddyserth, sydd â gradd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon a chymhwyster TAR mewn Adddysg Gorfforol mewn Ysgolion Uwchradd, wedi darbwyllo llu o ddisgyblion i gamu oddi ar y llinellau ochr a chymryd rhan yn sesiynau 5x60.
Ac yntau ond yn y swydd ers mis Medi 2009, mae eisoes wedi cyflwyno amserlen o 14 o weithgareddau yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, yn cynnwys pêl osgoi, marchogaeth ceffylau a thrampolinio, a hyd at ddeg o weithgareddau yn Ysgol St Brigids, gyda phêl droed, ffensio ac aerobics yn profi’n fwyaf poblogaidd.
Meddai: "Mae 5x60 wedi cael effaith bositif yn y ddwy ysgol, gan ddarparu cyfleoedd rhagorol i ddisgyblion gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae hefyd wedi bod o gymorth i’r ysgolion ffurfio cysylltiadau â chlybiau a chyfleusterau lleol, yn ogystal â rhoi cyfle i’r disgyblion hŷn hyfforddi.
"Rwy’n mwynhau darparu amrywiaeth o weithgareddau sy’n apelio at amrywiaeth o ddisgyblion o bob oedran, rhyw a gallu. Rwy’n cael boddhad mawr o weld y disgyblion nad ydynt yn cymryd rhan fel arfer yn cael hyd i rywbeth maent yn ei fwynhau," ychwanegodd.
