Codi Hwyl Mewn Gemau
Codi Hwyl Mewn Gemau
Mae codi hwyl mewn gemau yn gamp sy’n cynnwys nifer o ymarferion trefnus gyda dawnsio, towlu, neidio, sythu ac wrth gwrs, codi hwyl a gweiddi! Y prif amcan yw annog y gwylwyr mewn achlysur i ... wel, gweiddi a chymeradwyo! Mewn geiriau eraill, nod y codwyr hwyl yw tynnu sylw at achlysur a cheisio annog y gynulleidfa i gymryd rhan.
Er mawr syndod, gweithgaredd i wrywod yn unig oedd codi hwyl mewn gemau pan gafodd ei sefydlu, dros ganrif yn ôl erbyn hyn, ond heddiw, amcangyfrifir bod 97% o’r rhai sy’n codi hwyl mewn gemau yn ferched! Gall fod yn gamp fer, siarp a chyffrous i’w gwylio gydag ymarferion yn amrywio o 1 i 3 munud. Mae angen llawer iawn o egni, y gallu i gydsymud, sgiliau athletaidd ac, wrth gwrs, llawer iawn o waith tîm. Gall fod yn eithriadol gystadleuol hefyd.
Mae’r gweithagredd yn tarddu o’r Unol Daleithiau ac mae cysylltiad agos rhyngddo â phêl droed Americanaidd a phêl fasged. Mae’n eithriadol boblogaidd yno, gydag amcangyfrif o 1.5 miliwn o bobl wedi’u cofrestru fel codwyr hwyl ac mae’n dechrau magu poblogrwydd yng Nghymru yn awr. Cymerodd mwy na 1,114 o bobl ieuainc ran mewn codi hwyl mewn gemau drwy gyfrwng y cynllun 5x60 y tymor diwethaf, rhywbeth i weiddi yn ei gylch a’i gymeradwyo yn sicr!
