Codi Hwyl Mewn Gemau
Codi Hwyl Mewn Gemau
Cafwyd trafodaeth ynghylch a yw codi hwyl mewn gemau wir yn weithgaredd chwaraeon. Mae’r cefnogwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod angen talent a sgiliau athletaidd arbennig iawn ar gyfer y gamp ond mae’r rhai sy’n feirniadol yn tynnu sylw at y ffaith bod y term chwaraeon yn awgrymu cystadleuaeth rhwng sgwadiau ac nid yw pob sgwad yn cystadlu. Mae un peth yn sicr, pa un ai ydych yn chwilio am rywbeth hwyliog i roi cynnig arno gyda’ch ffrindiau neu eisiau cael hyd i ffrindiau newydd a bod yn egnïol a chystadlu, gall codi hwyl mewn gemau gynnig hyn i gyd i chi, felly ewch ati i gymryd rhan! Bydd yn cynyddu curiad eich calon yn sicr.
Yn ychwanegol at godi hwyl mewn gemau a chystadlu, mae codwyr hwyl proffesiynol yn derbyn gwahoddiadau i wneud llawer o waith elusennol ac i siarad yn llawn cymhelliant a pherfformio ar y teledu, a all arwain at amrywiaeth eang o bethau eraill. Ymhlith y codwyr hwyl o’r gorffennol sydd bellach yn enwog iawn mae Miley Cyrus, Jessica Simpson a Christina Aguilera.
Os yw codi hwyl mewn gemau’n apelio ata chi ac os ydych eisiau rhoi cynnig arni, cysylltwch â Swyddog 5x60 eich ysgol.
