Mawrth 2010

Enw:

Catrin Jones

Wedi’i henwi’n Swyddog y Mis 5x60 ar gyfer mis Mawrth, dim ond un yw Catrin o blith y llu o arweinwyr sydd wedi’u recriwtio gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn cael ei gefnogi’n lleol gan Gyngor Sir Ceredigion, diben y cynllun yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.

Mae’r ferch 25 oed o Dregaron, sydd wedi chwarae hoci, pêl rwyd a phêl droed ar lefel sirol, wedi darbwyllo llu o ddisgyblion i gamu oddi ar y llinellau ochr a chymryd rhan yn sesiynau gweithgarwch 5x60.

Mae Catrin wedi bod yn y swydd ers tair blynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi cyflwyno amserlen o naw o weithgareddau yn y ddwy ysgol. Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd yw pêl mainc*, dringo dan do a chynghreiriau pêl droed 5-bob-ochr.

Meddai: "Rwy’n mwynhau cael cymaint o amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau i weithio â hwy a hefyd rhyngweithio gyda’r disgyblion a gweld eu brwdfrydedd hwy dros weithgareddau 5x60. Mae’r plant o ardal Cymunedau yn Gyntaf wedi manteisio ar y cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau 5x60, fel 5-bob-ochr, hip-hop a phêl mainc. Hefyd, mae’r Ioga drwy gyfrwng 5x60 ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) wedi bod o fudd i nifer o’r disgyblion ac wedi bod yn llwyddiant ysgubol."

Meddai dwy ddisgybl ym Mlwyddyn 8 yn Ysgol Penglais, Megan ac Amy: "Dyma’r clybiau gorau rydym erioed wedi’u cael! Fe allwch chi wneud 5x60 gyda’ch ffrindiau, mae’n hwyl a dyma’r peth gorau yn y byd!"